Gosodiad Electrodechnegol
Nod y cwrs yw rhoi sgiliau ymarferol, gwybodaeth a phrofiad i ddysgwyr a fydd yn eu galluogi i weithio'n effeithiol yn y diwydiant Adeiladu. Byddwch yn datblygu eich galluoedd proffesiynol ac yn derbyn cymhwyster cydnabyddedig.
Cynnwys
Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau
Fel rhan o brentisiaeth Lefel 3 mewn Electrodechnegol, bydd angen i chi gwblhau cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu oni bai bod gennych gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig.
Mae'r cwrs Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn rhoi cyflwyniad trylwyr i adeiladu. Mae ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sectorau hyn, neu'n bwriadu gweithio ynddynt.
Mae unedau craidd y cymhwyster hwn yn cwmpasu chwe phwnc gorfodol gan gynnwys sgiliau gyrfa a chyflogadwyedd, iechyd a diogelwch a chyflwyniad i sectorau a chrefftau adeiladau ac amgylchedd adeiledig.
Byddwn yn teilwra eich rhaglen ddysgu i weddu i'ch anghenion, fel bod profiad pawb yn unigryw. Er bod anghenion yn amrywio, yr amser a argymhellir i gwblhau'r rhaglen hon yw 12 mis.
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster Craidd, byddwch yn gallu mynd ymlaen i astudio ar gyfer eich cymhwyster Lefel 3 mewn Electrodechnegol fel rhan o'ch prentisiaeth.
Prentisiaeth Electrodechnegol Lefel 3
Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich:
- gallu i gynllunio prosiectau gwaith yn effeithio gan ddefnyddio'r sgiliau priodol ar gyfer eich crefft mewn amgylchedd gwaith
- gwybodaeth a dealltwriaeth o'r offer, technegau, defnyddiau a thechnolegau a ddefnyddir yn eich masnach, a sut maent wedi newid dros amser
- sgiliau cyflogadwyedd a'ch gallu i'w defnyddio mewn amgylchedd gwaith
- dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol
- perfformiad galwadigaethol a gwybodaeth am eich crefft mewn cyd-destun gwaith.
Dylai'r fframwaith prentisiaeth gymryd tua 5 mlynedd i chi ei gyflawni gan gynnwys amser a dreulir ar gyflawni'r Craidd Lefel 2 ac unrhyw sgiliau hanfodol gofynnol.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth electrodechnegol hon yn llwyddiannus byddwch yn gallu gwneud cais am Gerdyn Aur ECS, symud ymlaen i brentisiaeth lefel uwch neu symud ymlaen yn eich gyrfa.
Mae cymorth gyda darllen, ysgrifennu a mathemateg hefyd ar gael