Skip to main content
/media/1055/web-banners-1.png

Rhaglen Ymgysylltu

Os ydych yn 16-19 oed a bod angen cymorth ac arweiniad arnoch wrth ddewis yr yrfa rydych am ei dilyn neu gymorth i ddod o hyd i leoliad neu waith, mae ein rhaglen Ymgysylltu ar eich cyfer chi. 

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd (llunio CVs, chwilio am swydd, sgiliau ar gyfer cyfweliad, ymddygiad priodol yn y gwaith, ac ati) a gwella eich sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrenedd digidol. Yn ystod y cyfnod hwn byddwn hefyd yn cynnig sesiynau blasu i chi o blith yr holl lwybrau a gynigir gennym yn HCT:

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddod o hyd i leoliadau addas i chi a datblygu llwybr cynnydd ar eich cyfer fel eich bod yn gadael y rhaglen naill ai â swydd, lleoliad gwaith (Twf Swyddi Cymru+ neu Brentisiaeth) neu gyflogaeth.  

Os hoffech wybod mwy am y rhaglen Ymgysylltu,cysylltwch â ni ar info@hctceredigion.org.uk neu ffoniwch 01970 633040.